Dysgu trwy greu.
Mae Dysgu trwy greu yn cael ei noddi gan Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yng Nghymru, i gynnal arbrawf byr i archwilio sut mae pobl yn dysgu trwy greu pethau.
Mae’n labordy digidol sy’n rhoi rhyddid i bobl feddwl yn wahanol. Byddwch yn dysgu sut i ddatrys problemau mewn grŵp, heb y cyfyngiadau a all fodoli yn eich sefydliad, yn ogystal â sut mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn helpu i adeiladu gwasanaethau gwell.
Mae’r rhain yn sesiynau trochi ac ymarferol, i ddysgu sgiliau digidol a chreu cynhyrchion a gwasanaethau digidol - yn yr agored, yn go iawn.
Yr hyn a gynigiwn
Dysgu trwy greu yw:
- lle diogel i ddysgu a bod yn greadigol
- byddwch yn datrys problemau sy’n berthnasol i’ch sefydliad
- ymagwedd ymarferol lle byddwch chi’n dysgu trwy greu
- byddwch chi’n gweithio’n agored i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu a’i wneud, ac yn cael adborth cyflym
- byddwch yn cynllunio ar gyfer y foment ‘aha!’ yna, p’un a ydynt yn ddatblygiadau bach neu’n gamgymeriadau i ddysgu ohonynt
Bydd arbenigwyr yn eich arwain, gam wrth gam, trwy gymhwyso sgiliau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, prototeipio, dylunio cynnwys a gwasanaeth dwyieithog, ymchwil defnyddwyr, technegau darparu ystwyth, gwneud penderfyniadau a arweinir gan ddata, a gweithio’n agored.
Os ydych eisiau diweddariadau gennym ni wrth i ni lunio Dysgu trwy greu, cysylltwch â ni ar helo@learnbymaking.wales