Dysgu trwy greu.

View in English

Y labordai

Bydd y labordy digidol dysgu trwy greu yn cynnwys set o weithgareddau wedi’u rhannu ar draws 4 thema.

Bydd pob labordy yn unigryw i’r tîm sy’n cymryd rhan, a bydd y gweithgareddau’n cael eu dewis i roi profiad penodol, ymarferol a defnyddiol iddynt, gan wneud cynnyrch a gwasanaethau digidol. Y nod yw y bydd cyfranogwyr yn gallu defnyddio’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn y labordai, yn eu rôl eu hunain wedi’r profiad.

Bydd y gweithgareddau’n sesiynau ymdrochol ac ymarferol, a fydd yn helpu pobl i gymryd rhan i ddysgu sgiliau digidol a chreu pethau - yn yr agored, go iawn.

Mae gennym 4 thema yr ydym yn eu gweld fel y rhannau pwysicaf o ddysgu trwy greu.

Y themâu yw:

  • helo a heriau dylunio
  • ymchwilio i’r gofod problem
  • creu
  • profi, dysgu a rhannu