View in English

Dysgu trwy greu.

Mae Dysgu trwy greu yn cael ei noddi gan Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yng Nghymru, i gynnal arbrawf byr i archwilio sut mae pobl yn dysgu trwy greu pethau.

Mae’n labordy digidol sy’n rhoi rhyddid i bobl feddwl yn wahanol. Byddwch yn dysgu sut i ddatrys problemau mewn grŵp, heb y cyfyngiadau a all fodoli yn eich sefydliad, yn ogystal â sut mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn helpu i adeiladu gwasanaethau gwell.

Mae’r rhain yn sesiynau trochi ac ymarferol, i ddysgu sgiliau digidol a chreu cynhyrchion a gwasanaethau digidol - yn yr agored, yn go iawn.

Yr hyn a gynigiwn

Dysgu trwy greu yw:

Bydd arbenigwyr yn eich arwain, gam wrth gam, trwy gymhwyso sgiliau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, prototeipio, dylunio cynnwys a gwasanaeth dwyieithog, ymchwil defnyddwyr, technegau darparu ystwyth, gwneud penderfyniadau a arweinir gan ddata, a gweithio’n agored.

Os ydych eisiau diweddariadau gennym ni wrth i ni lunio Dysgu trwy greu, cysylltwch â ni ar helo@learnbymaking.wales