Awgrymiadau ysgrifennu nodiadau wythnosol
Mae’n werth dechrau trwy ddweud mai’r nodiadau wythnosol gorau yw’r rhai sy’n cael eu hysgrifennu gyda rhyddid! Os ydych chi’n defnyddio gormod o strwythur ac yn gosod rheolau iddyn nhw, byddan nhw’n mynd yn orchest, ac yn y pen draw ni fyddant yn cael eu hysgrifennu o gwbl.
Dyma rai awgrymiadau efallai bydd o gymorth.
Ysgrifennwch drosoch eich hun
Mae nodiadau wythnosol yn ein hatgoffa’n fawr am yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros gyfnod y prosiect. Os ydych chi’n trin nodiadau wythnosol fel rhywbeth y gallwch gyfeirio’n ôl ato, yna fe welwch chi nhw’n ddefnyddiol a gallwn sicrhau y bydd pawb yn teimlo’r un fath!
Cymerwch eich tro a pheidiwch â phoeni am strwythur
Efallai y bydd gwahanol fathau o ysgrifennu yn gofyn i chi ddilyn tôn arbennig o lais neu arddull, ond mae nodiadau wythnosol yn aml yn fwy diddorol pan fyddant yn adlewyrchu personoliaeth y person sy’n eu hysgrifennu.
Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi wedi’i wneud yn hytrach na’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud
Mae ysgrifennu am yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni neu ei ddysgu, yn hytrach na’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud, yn aml yn llawer haws. Gallwch hefyd osgoi gosod y disgwyliadau anghywir trwy sôn am “gamau nesaf” yn hytrach nag “erbyn yr wythnos nesaf”.
Rhai wythnosau yn dawelach nag eraill
Weithiau bydd gennych lwyth y byddwch eisiau ysgrifennu amdanynt, ac wythnosau eraill tipyn yn llai. Mae hynny’n gwbl iawn. Mi fydd llwyth o bethau’n digwydd rhai wythnosau, bydd gennych chi dunnell o wybodaeth i bwyntio ato, tra bydd wythnosau eraill ychydig yn arafach.
Mae’r nodiadau wythnosol byrraf yn ddefnyddiol
Weithiau rydych chi’n rhedeg allan o amser ac mae’n hawdd sgipio wythnos o ysgrifennu. Ond hyd yn oed os yw’n hynod o fyr, mae rhoi rhywbeth ar-lein yn helpu i gadw’r momentwm i fynd. Dyma enghraifft o hynny gan y werin yn Berg.