Beth yw Git?
Mae Git yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar waith a wnaed ar brosiect.
Y term jargon a ddefnyddir gan amlaf yw rheoli fersiwn (version control).
Yn draddodiadol rydym yn arbed copïau lluosog o’r un ffeil, ond mae Git yn eich annog i arbed cipluniau o ffeiliau. Gelwir y cipluniau hyn yn ymrwymiadau (commits).
Mae Git yn storio holl hanes eich prosiect ac yn cofnodi’r hyn sydd wedi newid a phwy a’i newidiodd.
Mae Git yn ei gwneud hi’n hawdd neidio rhwng cipluniau, sydd yn ei dro’n gwneud hi’n hawdd trwsio camgymeriadau neu brofi fersiynau gwahanol.