Map ffordd ar gyfer Labs, Dysgu trwy greu
Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2022, rhedon ni ein cyfres gyntaf o Labs, Dysgu trwy greu.
Dyma ein map ffordd lefel uchel ar gyfer y ffordd gorau o’i symud ymlaen a’r meysydd y mae angen eu harchwilio ymhellach.
Darparu’r sgiliau a’r hyder i weision cyhoeddus adeiladu gwell gwasanaethau cyhoeddus
Nod Labs yw rhoi amrywiaeth o offer ymarferol, adnoddau, a phrofiadau y gallant ymarfer o fewn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae rhai elfennau ailadroddus i Labs, ond daw ei werth o ddarparu dull ymarferol i gyfranogwyr sy’n ymwneud â’r heriau o fewn eu sefydliad.
Nawr
- Gwella cynnwys Labs yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd o’r gyfres gyntaf o sesiynau Labs
Nesaf
- Mae gennym gronfa o siaradwyr arbenigol y gall CDPS alw arnynt
- Rydym wedi archwilio amrywiaeth gwahanol o broblemau i ddysgu beth sy’n gweithio gyda Labs
Dyfodol
- Rydym yn ymwybodol am y mathau o heriau sy’n gweithio orau i Labs
Cefnogi cyn-fyfyrwyr Labs i fwrw ymlaen â’r hyn a ddysgon nhw o fewn eu sefydliad
Er mwyn i Labs gael eu hystyried yn llwyddiant, mae’n rhaid ei fod wedi gwneud mwy na dysgu sgiliau newydd i gyfranogwyr. Mae angen eu grymuso i gymhwyso’r hyn a ddysgon nhw’n ôl o fewn eu sefydliad.
Ni fydd newid sefydliadol archwaeth yn digwydd dros nos, ond mae newid graddol trwy ddechrau gweithio mwy yn yr agored i adeiladu gwasanaethau gwell, mewn ffyrdd gwell, yn arwydd o lwyddiant Labs.
Nawr
- Mae nodiadau wythnosol a chyfnodau blog yn cael eu hysgrifennu gan gyn-fyfyrwyr Labs
- Rydyn ni’n gallu aros mewn cysylltiad â chyn-fyfyrwyr i dawelu eu meddyliau a’u hannog eu bod yn gwneud y peth iawn
Nesaf
- Mae gwefan Dysgu trwry Greu yn cael ei chynnal yn weithredol i gynnwys yr adnoddau diweddaraf
- Mae cymuned weithredol ar draws cyn-fyfyrwyr Labs
- Rydyn ni’n dysgu pa gefnogaeth sydd ei angen ar ôl-Labs i helpu i gynnal momentwm
- Rydyn ni’n dysgu sut i fesur yr effaith mae Labs yn ei gael ar sefydliadau a thimau
Dyfodol
- Mae gwelliant gwasanaeth a gychwynnwyd gan Labs yn mynd i beta/byw
Gwneud Labordai ar gael ar gyfer holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru
Dechreuodd Labs â thîm sy’n cefnogi un sefydliad yn mynd i’r afael ag un broblem. Mae angen i ni ddangos y gall y cysyniad o Labordai fod ar raddfa fawr mewn nifer o wahanol ffyrdd sy’n hyfyw i’w gweithredu a’u hariannu.
Nawr
- Adnabod perchennog neu randdeiliaid o fewn CDPS
- Cytuno ar y garfan nesaf o gyfranogwyr Labs
Nesaf
- Adeiladu piblinell o sefydliadau a allai elwa o gymryd rhan yn Labs
- Rhedeg Labs gyda sawl tîm o fewn sefydliad
- Labs yn mynd i’r afael â phroblem a rennir ar draws sawl sefydliad
- Arbrofi gyda modelau ariannu gwahanol i weld beth sy’n ymarferol
Dyfodol
- Mae model ariannu wedi’i hadnabod sy’n gweithio ar draws sefydliadau
- Rydym wedi cynnal sesiwn labs sy’n cefnogi Cymraeg a Saesneg