Sesiwn chwech
Mae sesiwn chwech yn ymwneud â phrototeipio. Creu “rhywbeth” y gellir ei roi o flaen defnyddwyr go iawn. Trwy gydol y sesiwn byddwn yn gweithio mewn ‘sbrintiau byr’ i’n helpu i barhau i ganolbwyntio ar y pethau cywir, a chadw momentwm. Bydd y sbrintiau byr hefyd yn rhoi cyfle i ni gael adborth cyflym o fewn y tîm.
Y creu
Bydd yr hyn a wneir yn dibynnu llawer ar y broblem ag adnabuwyd yn y sesiynau blaenorol a’r dyluniadau dilynol a theithiau defnyddwyr. Ond rydyn ni’n dychmygu y byddwn ni’n gwneud defnydd o becyn cymorth prototeipio.
Canlyniadau dysgu
- Sut i ddechrau gyda phecyn prototeipio
- hanfodion sbrintiau - cynllunio, creu, dangos
- sut gall rhannu pethau’n gynnar helpu’r tîm i ganolbwyntio ar y pethau cywir
- gwerth “wedi gwneud digon” yn erbyn “perffaith”