Dysgu trwy greu.

View in English

Sesiwn dau

Mae sesiwn dau yn cyflwyno’r tîm i her dylunio gwasanaethau. Mae’n bwrpasol haniaethol fel bod modd gadael unrhyw gyfyngiadau sefydliadol wrth y drws, ac annog y tîm i feddwl am broblemau mewn ffyrdd newydd a gwahanol.

Yn ystod y sesiwn byddwn yn archwilio elfennau o fapio gwasanaethau, gan adnabod defnyddwyr, technegau ymchwil amrywiol, a sut i addasu i broblemau na welwyd.

Mae pwyslais cryf ar gael hwyl!

Y creu

Bydd manylion am yr hyn a chaiff ei greu yn ystod y sesiwn yn amrywio. Dydyn ni ddim eisiau rhoi gormod i ffwrdd cyn y diwrnod chwaith, gan fod elfen o ‘feddwl ar eich traed’!

Fodd bynnag, bydd cyfle i’r tîm ddiweddaru’r wefan am sesiwn un gyda’r hyn a ddysgon nhw ar y diwrnod.

Canlyniadau dysgu