Dysgu trwy greu.

View in English

Sesiwn tri

Canolbwynt sesiwn tri yw adnabod pa broblem y byddwn ni’n ei daclo drwy weddill y sesiynau. Byddwn yn defnyddio cyfuniad o ddadansoddeg y we, adborth blaenorol defnyddwyr, data canolfannau cyswllt, yn ogystal â ffynonellau gwybodaeth eraill i nodi’r problemau, a’n helpu i flaenoriaethu’r hyn sydd angen i ni ganolbwyntio arno.

Y creu

Erbyn diwedd sesiwn tri byddwn yn anelu at ddangos amlinelliad o’r broblem y byddwn yn gweithio arni ar gyfer y sesiynau dilynol. Gall hyn fod ar ffurf ‘un dudalen’ neu rywbeth tebyg, ac yn adnabod y defnyddwyr, eu hanghenion (tybiedig), a’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r penderfyniad i ganolbwyntio ar y broblem hon.

Canlyniadau dysgu