Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos pump

11 Tachwedd 2022

Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer ddwy sesiwn gyntaf Dysgu trwy greu. Cawsom gwrdd â’r tîm o Gyfoeth Naturiol Cymru fydd yn cymryd rhan yn y prosiect, i ddeall ychydig mwy am yr hyn maen nhw’n gobeithio ennill o’r profiad, sydd wedi caniatáu inni deilwra’r sesiynau i gwrdd â’u hanghenion.

Mi fydd rhaid bod Dysgu trwy greu yn gweithio ar gyfer cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb, gweithio o adref a hybrid, er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, ar gyfer y ddwy sesiwn gyntaf, rydym wedi penderfynu mai’r rhain fyddai’n fwy effeithiol mewn person, a byddwn yn cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Llun 21 Tachwedd a dydd Mawrth 22 Tachwedd.

Dylunio’r sesiynau

Sesiwn un

Mae’r sesiwn gyntaf yn mynd i ganolbwyntio’n fawr ar ddod i adnabod ei gilydd. Hoffwn fod Dysgu trwy greu yn annog lle diogel i arbrofi ac i ddysgu, felly yn ystod y diwrnod, byddwn yn deall mwy am yr hyn sydd ei angen ar bobl o fewn amgylchedd dysgu. Byddwn hefyd yn sefydlu egwyddorion arweiniol ar gyfer sut rydyn am weithio dros y 4 wythnos.

Erbyn diwedd y sesiwn gyntaf, byddwn yn gobeithio bod wedi sefydlu gliniaduron pawb, fel bod ganddynt yr offer sydd eu hangen i gyfrannu at rywfaint o brototeipio drwy gydol yr 8 sesiwn. Byddwn wedi creu gwefan prosiect er mwyn dogfennu’r holl brofiad.

Sesiwn dau

Yn ystod yr ail sesiwn byddwn yn archwilio her ddylunio. Ar hyn o bryd nid ydym am ddatgelu gormod, ond gobeithiwn y byddai’n rhoi cyfle i archwilio gwahanol fathau o dechnegau ymchwil, yn cyflwyno syniadaeth ac adborth cyflym, ac yn ein helpu i ddechrau meddwl sut fydd angen i wasanaethau ymateb i heriau anrhagweledig.

Byddwn yn defnyddio gwefan y project o sesiwn 1 i gofnodi’r hyn a ddysgwyd drwy gydol y dydd, ac fel lle i ddangos beth rydyn ni wedi’u creu.

Ymchwil defnyddwyr a micro-sgiliau

Dros yr wythnos ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gabi Mitchem-Evans, sydd wedi bod yn help aruthrol i ychwanegu ongl ymchwil defnyddwyr i’r profiad. Mae Gabi wedi bod yn gweithio ar set o ‘ficro-sgiliau’, sy’n helpu pobl i ddylunio a chynnal ymchwil gwell i ddefnyddwyr. Rydym yn ymgorffori elfennau o’r ‘micro-sgiliau’ yma ym mhob un o’r sesiynau.

Hwyl gyda sticeri

Ni fydd prosiect digidol yn gyflawn heb sticeri hwyliog, ac nid yw Dysgu trwy greu yn eithriad! Rydyn ni wedi cael tro ar ddylunio ein sticeri ein hunain, rhowch wybod beth rydych chi’n ei feddwl!

Delwedd o'n pecyn sticeri Dysgu trwy greu newydd sbon

Cymryd rhan

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech gysylltu â ni, neu dderbyn diweddariadau drwy e-bost, anfonwch neges at hello@learnbymaking.cymru