Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos saith

25 Tachwedd 2022

Yr wythnos hon cynhaliwyd dwy sesiwn gyntaf Dysgu trwy greu. Mae’n deg dweud ein bod wedi teimlo’n gyffrous wrth gychwyn y sesiynau, ond hefyd gyda mymryn o nerfusrwydd am sut fyddai’r dyddiau’n mynd! … spoiler-alert — joion ni mas draw!

Sesiwn un

Amcan y diwrnod cyntaf oedd dod i adnabod ein gilydd ac i greu rhywbeth a’i gyhoeddi yn yr agored.

Llawlyfr ohonof i

I ddechrau’r diwrnod, defnyddiwyd fersiwn wedi’i addasu o Lawlyfr Emily Webber fel ffordd o ddysgu mwy am ein gilydd.

Mae’n bendant yn ymarfer sy’n fwy naturiol i rai, ac yn gorfodi eraill i gamu allan o’u parth cysurus. Ond fe ysgogodd sgwrs ddefnyddiol iawn, a helpodd ni siapio’r diwrnod a sesiynau’r dyfodol gyda’n gilydd. Mae adeiladu tîm sy’n dysgu empathi â’i gilydd yn hanfodol er mwyn adeiladu timau gwych.

Y darn cyntaf

Y darn cyntaf gwnaethon ni greu oedd gwefan tîm y byddwn yn ei ddefnyddio i rannu’r gwaith ar y gweill a’n meddyliau. Dyddiau cynnar, ond i lawer o sefydliadau mae cyhoeddi rhywbeth yn gallu cymryd wythnosau neu fisoedd, felly mae’n deimlad da gallu gwneud hyn o’r cychwyn cyntaf.

Yn y prynhawn rhoddodd Colm cyflwyniad i Git a thywysodd y tîm drwy adeiladu gwefan, gan ddefnyddio tudalennau GitHub. Ychwanegodd pawb eu hunain at ein [tudalen tîm](https://nrw-lab.github.io/cy/team/ fel man cychwyn.

Llun o'r tîm yn dylunio cynnwys ar gyfer y wefan

Cymru yn erbyn UDA

Yn ystod cyfnod lle mae gweithio o bell yn gwbl arferol, roedden ni’n meddwl ei bod hi’n bwysig cynnal y sesiynau cyntaf wyneb yn wyneb. Rydym yn cydnabod na fydd hyn yn bosib i bopeth, ond roeddem yn ffodus i allu gwneud hyn weithio y tro yma.

Buom yn ffodus hefyd bod y sesiwn yn cyd-fynd â gêm Cymru yn erbyn yr UDA yng Nghwpan y Byd. Fe ddaethon ni at ein gilydd ar ddiwedd y diwrnod i wylio’r gêm, a chodi calon ar gôl Gareth Bale!

Llun o'r tîm cyn cic gyntaf Cymru yn erbyn UDA

Sesiwn dau

Cyflwyniwyd her ddylunio yn ystod diwrnod 2. Y nod oedd gwneud y cyfranogwyr yn agored i set graidd o dechnegau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, fel eu bod nhw’n gallu teimlo sut beth yw eu defnyddio nhw go iawn. Roedd yr her a gynlluniwyd gennym yn canolbwyntio ar werthwyr bwyd yng ngŵyl gerddorol Green Man.

Anghenion defnyddwyr

Fe ddechreuon ni’r bore yn edrych ar anghenion defnyddwyr. Yn debyg i’r holl weithgareddau y byddwn ni’n eu cynnal, os oeddech chi’n eu gwneud nhw’n ‘go iawn’, mae’n bosib i chi dreulio llawer mwy o amser yn eu cyfiawnhau.

At ddiben yr ymarfer, fe gyflwynwyd pedwar defnyddiwr gwahanol ynghyd â set o anghenion defnyddwyr wedi’u penderfynu ymlaen llaw. Fel grŵp, trafodwyd blaenoriaeth pob un o’r anghenion hynny yn seiliedig ar ‘werth’ a ‘galw’.

Delwedd sy'n disgrifio ysgrifennu a blaenoriaethu anghenion defnyddwyr

Cynhyrchodd yr ymarfer hwn dipyn o drafodaeth am haeddiant pob angen, ac roedd yn ddefnyddiol pwysleisio ei bod yn hollol iawn i beidio â gwybod yr holl atebion, ac wrth i chi ddysgu mwy drwy ymchwil a phrofi, gallwch ail-flaenoriaethu’n barhaus.

Llun o’r ymarfer blaenoriaethu anghenion defnyddwyr yn ystod sesiwn 2

Ymchwil defnyddiwr

Nesaf, symudon ni i feddwl am sut y gallai ymchwil defnyddwyr ein helpu i brofi a dilysu’r anghenion blaenoriaethwyd. Crëodd y tîm sgrîn recriwtio a chanllaw trafod yn seiliedig ar dempledi a ddarparwyd gennym, ac yna fe wnaethom gynnal cyfweliadau defnyddwyr enghreifftiol. Er nad oedd gennym fynediad at ddefnyddwyr ‘go iawn’, cawsom hwyl yn syrthio i wahanol bersonas a phrofi sut y gallai ymchwilwyr addasu eu dull o ofyn cwestiynau er mwyn cael y gorau o’r cyfweliadau.

Dylunio bwydlen

Fel tipyn o sbort, ac i’n cael ni yn yr hwyliau am ginio, roedd gan bob tîm cyfle i ddylunio bwydlen fwyd. Roedd y fwydlen yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr a blaenoriaethwyd, a’r hyn roedden nhw wedi’i ddysgu yn ystod y cyfweliadau defnyddwyr.

Cawsom ein temtio i’w gadael yng nghaffi’r swyddfa i fesur faint o ddiddordeb gallai’r eitemau bwyd cynhyrchu. Ond peidiwch â phoeni, wnaethon ni ddim!

Llun o'r bwydlenni a ddyluniwyd gan y timau yn ystod her ddylunio sesiwn 2

Dylunio’r gwasanaeth

Ar ôl cinio fe wnaethon ni droi ein sylw at feddwl am y gwasanaeth ehangach - beth yw’r ffactorau a’r ystyriaethau ar gyfer gweithredu lori fwyd mewn gŵyl gerddorol.

Mapio gwasanaethau

Dewisodd y timau un agwedd benodol ar weithredu lori fwyd, a chreu glasbrint gwasanaeth. Ystyriwyd y camau y byddai defnyddiwr yn eu cymryd, y pethau y byddai defnyddiwr yn eu gweld neu’n rhyngweithio â nhw, a’r hyn oedd angen digwydd ‘tu ôl i’r llenni’ o safbwynt gweithredu a chefnogi.

Aeth y timau i’r afael â’r broblem mewn dulliau ychydig yn wahanol ond yr un mor ddilys. Dechreuodd un tîm yn eithaf eang gyda chamau’r broses, tra gwnaeth y tîm arall dechrau’n ddyfnach ar gam penodol. Cawsom ein synnu’n llwyr at y nifer o bethau roedd rhaid eu hystyried wrth brynu burrito!

Llun o lasbrint y gwasanaeth ar gyfer prynu burrito o lori fwyd mewn gŵyl gerddorol

Archwiliad rhaglen bwrdd gwaith

Y gweithgaredd olaf ar ddiwedd diwrnod prysur oedd efelychu rhedeg y gwasanaeth, ac yna gweld sut mae’n rhaid newid pethau pan fydd senarios annisgwyl yn codi, er enghraifft, mae eich ciw yn hirach na’r disgwyl neu mae cystadleuydd gwrthwynebol wrth eich ymyl.

Defnyddiwyd yr archwiliad rhaglen bwrdd gwaith fel dull dylunio canmoliaethus i fap y gwasanaeth. Mae defnyddio lego a chardiau yn caniatáu ichi feddwl am y gwasanaeth o safbwynt gwahanol, ac mae’n ei gwneud yn haws newid a symud pethau o gwmpas wrth i chi archwilio gwahanol agweddau o’r gwasanaeth.

Os nad ydych chi’n gyfarwydd ag archwiliadau rhaglenni bwrdd gwaith, mae’r fideo yma gan Meld Studios yn rhoi trosolwg da.

Llun o archwiliad rhaglen y bwrdd gwaith yn efelychu gweithredu lori fwyd mewn gŵyl gerddorol

Beth nesaf?

Trwy gydol sesiynau 1 a 2 buom yn sôn am sut y gellid defnyddio’r gweithgareddau mewn bywyd go iawn o fewn rolau’r tîm, a pha fath o broblemau maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Yn ystod y sesiynau Labs nesaf, byddwn yn defnyddio’r un technegau i archwilio anghenion defnyddwyr a’r heriau sy’n gysylltiedig â Chyfoeth Naturiol Cymru. Byddwn hefyd yn prototeipio ac yn profi syniadau a allai ddiwallu anghenion y defnyddwyr hynny.

Nodiadau wythnosol Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn dilyn y sesiwn, ysgrifennodd tîm Cyfoeth Naturiol Cymru eu nodiadau o’r ddwy sesiwn gyntaf - gallwch ddilyn eu nodiadau wythnosol yma.

Cymryd rhan

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech gysylltu â ni, neu os hoffech dderbyn diweddariadau trwy e-bost, anfonwch neges at hello@learnbymaking.cymru