Dysgu trwy greu.

View in English

Sesiwn pedwar

Bydd bedwaredd sesiwn Dysgu trwy greu yn canolbwyntio ar ddau faes:

Hygyrchedd a dylunio cynhwysol

Byddwn yn meddwl am fathau o anghenion hygyrchedd a ffyrdd y gallwn eu cefnogi wrth ddylunio gwasanaeth. Byddwn hefyd yn efelychu’r defnydd o dechnolegau cynorthwyol gwahanol i’n helpu cael rhywfaint o werthfawrogiad o sut beth yw ddefnyddio gwasanaethau sydd ag anghenion hygyrchedd amrywiol.

Syniadaeth

Ar ôl adrodd ar y broblem a gafodd ei flaenoriaethu’n sesiwn tri, byddwn wedyn yn dechrau meddwl am syniadau ynghylch sut y gallem fynd ati i daclo’r broblem honno. Gan adeiladu ar yr hyn a ddysgon ni am hygyrchedd, byddwn hefyd yn gofyn i ni’n hunain pa anghenion hygyrchedd y dylid ei ystyried yn ein meddylfryd dylunio. Y nod fydd cael dyluniad bras, lefel uchel erbyn diwedd y dydd y gallwn ddechrau prototeipio.

Y creu

Erbyn diwedd sesiwn pedwar byddwn yn anelu at ddangos cyfres o ddyluniadau lefel uchel yr ydym wedi eu braslunio, eu bwydo’n ôl a’u iteru fel tîm.

Canlyniadau dysgu