Sesiwn un
Mae gan sesiwn un Dysgu trwy greu dwy brif amcan.
- Dod i adnabod y tîm a sefydlu lle diogel i arbrofi a dysgu
- Sicrhau bod pawb wedi’u sefydlu gyda’r offer a’r adnoddau priodol
Y creu
Bydd pob sesiwn yn cynnwys “creu”, neu gyfres o “greu” pethau. Bydd yr hyn yr ydym yn creu yn amrywio gyda phob sesiwn, weithiau bydd yn beth digidol, tra ar adegau eraill y gallai fod yn rhywbeth corfforol. Ond waeth beth yw’r creu, y nod fydd rhannu’r canlyniadau ar ôl pob sesiwn.
Yn ystod y sesiwn gyntaf byddwn yn gwneud:
- set o egwyddorion tîm
- ‘fy llawlyfr i’
- gwefan tîm
Canlyniadau dysgu
- Pwysigrwydd empathi i’r tîm a’r defnyddwyr
- Pwysigrwydd bod yn agored ac yn onest
- Bod ymddygiadau yn bwysicach na phrosesau
Offer ac adnoddau
- Cyflwyniad i Git
- Sut i ddefnyddio tudalennau GitHub i greu gwefan yn hawdd
Adnoddau sesiwn
Fy llawlyfr i
Trwy gael ein hysbrydoli gan fy llawlyfr i tîm Emily Webber, a defnyddio templed Cassie Robinson, rydym wedi llwyddo creu fersiwn ein hun o ‘fy llawlyfr i’.