Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos 2

21 Hydref 2022

Yr wythnos hon, daeth y tîm at ei gilydd wyneb yn wyneb i archwilio syniadau am sut y gallem strwythuro’r sesiynau ‘Dysgu trwy greu’. Roedd hi’n ddiwrnod cynhyrchiol , a chasglom lwyth o syniadau yn barod i ni ymchwilio ymhellach dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Ein cynllun cychwynnol yw i gynnal tua 8 sesiwn dros gyfnod o 4 i 5 wythnos. Bydd pwrpas penodol i bob sesiwn ac yn ymdrin ag elfennau gwahanol o’r broses ‘creu’. Mae hyn yn cynnwys sut i adnabod a blaenoriaethu problemau, defnyddio ymchwil defnyddwyr a data i archwilio a dilysu anghenion defnyddwyr, dylunio gyda’r iaith Gymraeg ar flaen eich meddwl, syniadau prototeipio a phrofi defnyddioldeb.

Gydag ystwythder mewn golwg, rydym yn ymwybodol nad yw ein cynllun yn sefydlog, ac mae disgwyl i bethau newid wrth i ni ddysgu mwy, ond rydym yn adeiladu synnwyr da o gyfeiriad.

Byddwn yn ysgrifennu crynodeb o’n cynllun cychwynnol, a’i gyhoeddi ar ein gwefan dros y dyddiau nesaf.

Gwen, Colm a Matt yn cynllunio; mae Jamie tu ôl i’r camera

Gwefan Dysgu trwy greu

Fe wnaethom ehangu ein gwefan, gan ychwanegu adran lle byddwn yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud dros gyfnod y labordai. Byddwn yn diweddaru’r adran yma wrth i ni ddatblygu ein syniadau.

Rydym hefyd wedi gwneud hi’n haws newid rhwng y fersiynau cynnwys yn y Gymraeg a’r Saesneg ar ein gwefan. Gallwch nawr wneud hyn pa bynnag dudalen rydych chi arni.

Cymerwch ran

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech chi gysylltu â ni, anfonwch e-bost at: helo@learnbymaking.wales