Dysgu trwy greu.

View in English

Shwmae!

28 Hydref 2022

Ni yw’r tîm dysgu trwy greu.

Labordy digidol arbrofol yw Dysgu trwy greu, wedi’i sefydlu i archwilio sut mae pobl yn dysgu drwy greu pethau. Mae’r fenter hon, a noddir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), yn rhan o Campws Digidol. Bydd Dysgu trwy greu yn cael ei chynnal ochr yn ochr â chyrsiau hyfforddi digidol, cymunedau ymarfer, a chyfarfodydd anffurfiol, lle gall timau o bob cwr o Gymru rannu eu sgiliau a’u harbenigedd.

Dysgu, Creu, Adolygu..Ailadrodd, ailadrodd, ailadrodd

Hanfod Dysgu trwy greu yw cynnal sesiynau labordy ymarferol a throchol, lle mae pobl yn dysgu sgiliau digidol, ac yn creu cynnyrch a gwasanaethau digidol - yn yr agored, go iawn. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddysgu am rywbeth newydd yw ei brofi eich hun. Drwy roi cynnig ar yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy arbrofi go iawn, gallwch droi gwybodaeth ddamcaniaethol yn sgiliau ymarferol.

Byddwn yn arwain cyfranogwyr gam wrth gam drwy:

  • gymhwyso sgiliau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • prototeipio
  • dylunio gwasanaeth dwyieithog
  • ymchwil defnyddwyr
  • technegau darparu ystwyth
  • penderfyniadau dan arweiniad data
  • gweithio yn yr Agored

Erbyn diwedd y sesiynau, bydd gan bobl sy’n cymryd rhan, ddarn o waith ar-lein y gallan nhw bwyntio ato a dweud ‘Fi wnaeth greu hynny’.

Arbrawf 4 wythnos yw ein lab cyntaf, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer ymarferwyr lefel mynediad, neu bobl sy’n ceisio symud i swyddi ‘digidol’. I ddechrau, rydyn ni’n gweithio gydag un o’n partneriaid presennol i’n helpu i’w greu, ei brofi a’i iteru. Os yw’n gweithio, yna byddwn yn ei ymestyn i eraill mewn sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru.

Mae’n ddyddiau cynnar, ac rydym dal i ddarganfod mwy a mwy o bethau pob dydd. Ond, rydyn ni’n ymarfer yr hyn ni’n pregethu, drwy wneud pethau i’n helpu i ddysgu, a rhannu hynny yn yr agored. Gallwch ddilyn y daith ar ein gwefan tîm, ac os hoffech ddarllen ein diweddariadau wythnosol, yna anfonwch e-bost at helo@learnbymaking.wales