Wythnos 3
28 Hydref 2022
Dysgu trwy greu
Rydym wedi bod yn meddwl yn ddyfnach ynghylch yr hyn yr hoffwn gwmpasu yn ein sesiynau Dysgu trwy greu. Mae gennym syniad o’r themâu y bwriadwn sôn amdanynt dros y cyfnod o bedair wythnos, yn ogystal â rhai o’r gweithgareddau yr hoffem eu cynnal. Mae digonedd o waith eto i’w gwneud i ddatrys beth sydd angen er mwyn gallu cynnal y sesiynau yma, ond rydym yn nodi pob cam o’r broses ar wefan Dysgu trwy greu.
Cyflwyno’r Gymraeg i’r broses ddylunio
Un o’r heriau rydyn ni’n awyddus i’w harchwilio yw sut allwn gyflwyno’r iaith Gymraeg i’r broses ddylunio yn gynnar, yn hytrach nag ystyried cyfieithu fel cam olaf y broses. Nid yw’n syml, ac nid ydym chwaith yn hollol siŵr sut i’w daclo mewn modd ymarferol, ond mae Alaw John wedi ymuno i’n helpu, wrth i ni ddechrau ar gynllunio sesiynau Dysgu trwy greu.
Offer i’n helpu arbrofi
Yn ystod y sesiynau Dysgu trwy greu, hoffwn fod pobl yn creu a chyhoeddi pethau. Er mwyn helpu gyda hyn, rydym wedi creu templed safle prosiect. Bydd cyfranogwyr yn gallu ei ddefnyddio i adeiladu gwefan sy’n cael ei chynnal ar GitHub, lle gallant ychwanegu diweddariadau i rannu eu cynnydd, yn ogystal â’r hyn maent yn ei ddysgu. Gobeithiwn y bydd yn annog pobl i ymarfer gweithio yn yr agored.
Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar becynnau cymorth prototeipio, a all gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan. Fel rhan o hwn, mae Colm wedi bod yn arbrofi gyda gwahanol lefydd y gallem gynnal prototeipiau. Dyma ei bost blog ar ddefnyddio Render fel dewis arall i Heroku.
Cymerwch ran
Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.
Os hoffech chi gysylltu â ni, anfonwch e-bost at: helo@learnbymaking.wales