Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos pedwar

4 Tachwedd 2022

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer sesiynau cyntaf Dysgu trwy greu. Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn cwrdd â’r tîm yn CNC er mwyn deall yr hyn yr hoffan nhw fuddio o’r profiad, ac o ganlyniad, byddwn yn addasu rhai o’r sesiynau er mwyn diwallu eu hanghenion yn well.

Dysgu wrth eraill

Rydym wedi siarad â phobl ysbrydoledig sy’n rhedeg mentrau dysgu ymarferol tebyg. Gwnaeth [Kathryn Grace] (https://twitter.com/IamKathrynGrace) sy’n rhedeg Service Jams, rhannu llwyth o gyngor ymarferol ar sut i hwyluso a gwneud pethau’n bleserus, a oedd yn help mawr i ddod â phethau’n fyw i ni. Siaradom hefyd gydag [Annette Joseph] (https://twitter.com/diversenett) o Diverse and Equal, a gwnaeth rhannu cyngor gwych am sut i feithrin empathi a diogelwch ffisiolegol o fewn amgylchedd gweithdy. Ac fe rannodd Sharon Dale a James Cattell gymaint o bethau da mae’n anodd rhestru’r cyfan yma, ond diolch. Mae clywed sut mae eraill yn gwneud pethau yn help mawr i dyfu ein dealltwriaeth a’n hyder ynglŷn â sut mae pobl yn dysgu drwy greu.

Ail-greu prototeip y pecyn cymorth

Yn y diweddariad yr wythnos diwethaf, fe wnaethom grybwyll ein bod yn archwilio gwahanol becynnau cymorth a allai ein helpu o ran prototeipio. Am y tro yma o leiaf, rydym wedi penderfynu defnyddio’r pecyn prototeip GOV.UK. Y prif resymau am hyn yw ei fod wedi’i ddogfennu’n dda, mae ganddo dempledi eang, ac yn bwysicaf oll, mae’r cydrannau dylunio wedi’u profi a’u deall yn effeithiol. Rydym yn hyderus y bydd hyn yn rhoi llawer o opsiynau i ni o ran arbrofi gyda phrototeipiau.

Un pryder a gawsom gyda defnyddio’r pecyn cymorth prototeipio GOV.UK, oedd bod ganddo olwg a theimlad eithaf pendant iddo, ac efallai ein bod eisiau rhywbeth sy’n edrych yn llai tebyg i GOV.UK. Er mwyn ein helpu gyda hyn, rydym wedi defnyddio reskin cynnil – gallwn ei gymryd ymhellach dros yr 8 wythnos nesaf, ond am nawr, mae’n rhywbeth sy’n edrych ychydig yn wahanol tra’n dal i elwa o holl nodweddion y pecyn cymorth gwreiddiol.

Sgrin lun o'r pecyn cymorth prototeipio wedi'i ail-greu, bydd y fersiwn Cymraeg gyda ni’n fuan

Ein post blog cyntaf

Ochr yn ochr â’r diweddariadau wythnosol, byddwn yn ysgrifennu postiadau blog i’n helpu i ddogfennu a rhannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu. Mae ein post cyntaf yn rhoi cyflwyniad i Dysgu trwy greu.

Cymryd rhan

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech gysylltu neu dderbyn diweddariadau trwy e-bost, anfonwch ebost atom: hello@learnbymaking.cymru