Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos wyth

2 Rhagfyr 2022

Mae’r sesiynau Labs wedi bod yn wych yr wythnos yma! Gwnaethom ganolbwyntio ar archwilio a chreu pethau sy’n ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac fe wnaethom wahodd cwpl o westeion arbennig hefyd.

Ein sgwrs arbenigol gyntaf

Ar ddechrau’r sesiwn, gwnaeth Richard Pope rhoi cyflwyniad gwych i ni lle soniodd am feddylfryd cynnyrch a sut i ddechrau arni. Roedd ei straeon a’i gynghorion yn seiliedig ar ei gyfnod yn llunio ac arwain cynnyrch GOV.UK, yn graff ac ymarferol.

Roedd Richard wrth ei fodd yn sôn am y manteision o greu pethau fel ffordd o feddwl a dysgu. Anogodd i ni feddwl am daith gyfan y defnyddwyr, a’i holl gydrannau. Bu hefyd yn rhannu rhai awgrymiadau am fformatau GOV.UK, a sut roedden nhw’n ddefnyddiol fel fframwaith ar gyfer meddylfryd cynnar y tîm hwnnw.

Tip o gyflwyniad Richard sy'n dweud "Dyluniwch mewn ffordd sy'n dangos cysyniadau lefel uchel, ond sy'n caniatáu’r gallu i lenwi manylion nes ymlaen"

Adnabod lle mae dechrau

Treulion ni amser yn edrych ar ddata a mewnwelediadau, gan gynnwys dadansoddiadau’r we ac adborth cwsmeriaid. Ein nod oedd adnabod ardaloedd lle mae galw uchel, gwerth uchel a/neu broblemau uchel, a rhoi caniatâd i ni’n hunain prototeipio gyda nhw.

Nid yw edrych trwy ddata a gawsom, mewn amser cyflym, gydag ymchwil defnyddwyr cyfyngedig yn ddelfrydol. Bydd angen i ni ail feddwl y ffordd rydyn ni’n gwneud hyn o fewn amgylchedd Labs erbyn y tro nesaf, ond fe ddaethon ni i ben mewn lle da, gyda rhai cyfleoedd cyffrous i’w harchwilio.

Fe wnaethon ni ddewis 3 ardal sy’n achosi rhywfaint o ddryswch i ddefnyddwyr gwasanaethau CNC, neu orbenion gweithredol sylweddol:

  1. Sut i wirio cydymffurfiaeth â thrwyddedau amgylcheddol, heb ddrysu pobl

  2. Sut i symleiddio’r broses caniatâd i ddefnyddio tir CNC

  3. Sut i wneud y broses cais am drwydded yn fwy effeithlon

sgrin lun o fwrdd Miro y tîm yn rhestru'r 3 ardal benodol i brototeipio, a’r meini prawf yr ydym yn eu gosod ar gyfer eu dewis. Dylai pob syniad a ddewiswyd gennym 1) gael ei gefnogi gan dystiolaeth, 2) posib i’w brototeipio yn yr amser sydd gennym, a 3) caniatáu inni ddangos yr hyn sy’n bosib.

Adeiladu hygyrchedd o’r cychwyn cyntaf

Ein hail westai oedd Alistair Duggin, ag arweiniodd hygyrchedd ar gyfer Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU, yn ogystal â’i waith gydag Apple a’r BBC yn y gorffennol. Roeddem wedi gofyn iddo ein helpu i adeiladu empathi gyda defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg, clyw, symudedd neu’n wybyddol.

Llun o Alistair Duggin yn sticio beth ddylwn wneud a beth ddylwn beidio â gwneud ynglŷn â hygyrchedd ar y wal. Mae e'n gwenu.

Wel, roedd treulio bore llawn yn meddwl ac efelychu anghenion hygyrchedd gwahanol, a dangos technolegau cynorthwyol amrywiol yn eithaf dwys. Mae’n rhywbeth na fyddwn yn ei anghofio.

Mae Alistair yn dosbarthu Sim-Specs i bobl yn y Lab i’w helpu i ddeall gwahanol gyflyrau nam ar y golwg.

Laura yn gwisgo sbectol oedd yn efelychu gweledigaeth twnnel, wrth iddi geisio darllen pamffled.

Gwnaethom ymarfer o gwmpas personas pobl sydd â namau neu anableddau a thrafod y pethau dylwn / ni ddylwn gwneud pan yn dylunio ar gyfer hygyrchedd. Daeth pob un ohonom i’r casgliad bod dim rheswm i beidio â gwneud hyn o’r cychwyn cyntaf. Mae hygyrchedd da yn golygu dyluniad da. Mae oedi ei ystyried, neu ei ychwanegu yn ddiweddarach yn beth ffôl i wneud: bydd yn costio llawer yn fwy, ac eithrio pobl yn ddiangen.

Llun grid pedwar wrth bedwar ar y wal, wedi'i wneud o dâp masgio. I lawr ochr chwith y grid mae rolau swyddi megis Dylunydd Gwasanaeth, Dylunydd Cynnwys, Dylunydd Gweledol a Rhyngweithio, a Chodydd Blaen wedi’u hysgrifennu arnynt.  Ar draws brig y grid mae post-its wedi’u labelu â Rhagosodiadau Hygyrch, Caniatáu Addasiadau, Darparu Dewisiadau Amgen, a Gwaith gyda Thechnoleg Gynorthwyol. Poblogir cynnwys y grid gyda phosteri o’r hyn ddylwn, a ni ddylwn wneud wedi’u torri i fyny i'r argymhellion unigol ac wedi eu hychwanegu i'r grid perthnasol. Mae yna argymhellion hefyd o fewn Darparu Dewisiadau Amgen ar gyfer Dylunio Gwasanaethau a Dylunio Cynnwys. Ac argymhellion y Cod Blaen ar gyfer Caniatáu addasiadau a Gweithio gyda Thechnoleg Gynorthwyol.

Braslunio ein syniadau cyntaf

Ac yn olaf, treulion ni’r prynhawn yn braslunio a rhannu syniadau. Gwnaeth y grŵp mwynhau, ac roedd hi’n ffordd wych o ddatgelu cymhelliant pawb tuag at greu pethau a datrys problemau.

Braslun 1 o 4 Braslun 2 o 4 Braslun 3 o 4 Braslun 4 o 4
Brasluniau wedi’u gwneud â llaw ar bapur A3, wedi'u tynnu'n gyflym iawn i'n helpu i ddal syniadau posib i'w prototeipio. Gwnaeth pawb yr ymarfer hwn ac yna trafodwyd beth oedden ni'n feddwl.

Ymunodd Richard ac Alistair â ni yn y prynhawn i gynnig adborth ar y syniadau cychwynnol. Roedd yn ddefnyddiol iawn i gael y wybodaeth yma gan arbenigwyr yn eu maes.

Yr wythnos nesaf byddwn yn culhau’r rhain i lawr, ac yn anelu at adeiladu rhywbeth i’w brofi a’i iteru.

Cymryd rhan

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech gysylltu â ni, neu os hoffech dderbyn diweddariadau trwy e-bost, anfonwch neges at hello@learnbymaking.cymru