Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos naw

9 Rhagfyr 2022

Yr wythnos hon fe wnaethom gynnal dwy sesiwn Labs cyflym iawn, gyda’r ddau yn canolbwyntio ar greu. Roedden ni’n rhedeg rhain yn rhithiol, ac wedi mwynhau dylunio ac adeiladu gwasanaethau i symleiddio’r broses o gael caniatâd i ddefnyddio tir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Rhannu arbenigedd

Cawsom sgwrs gan arbenigwr dylunio cynnwys [Sarah Winters](https://twitter.com/ContentDesignLN. Siaradodd â ni am bwysigrwydd sefydliad sy’n gweithio o safbwynt anghenion defnyddwyr, bod angen iddynt sicrhau strategaeth gynnwys ac ysgrifennu cynnwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Dylunio gyda’n gilydd

Cymeron ni’r syniadau a ddatblygwyd gennym yn y sesiwn diwethaf) a threulio amser yn ceisio eu gwau at ei gilydd mewn i lifoedd defnyddwyr cydlynol. Trafodwyd beth sydd angen digwydd, pam mae angen iddo ddigwydd, a’r hyn sydd dal angen i ni ei gyfrifo ym mhob cam.

Fe ddechreuon ni drwy edrych ar sut y gallen ni wella gwasanaeth “gwneud cais am ganiatâd” ond roedd gennym rai cwestiynau sylfaenol na allen ni eu hateb, felly rydym wedi’u rhoi i’r ochr am y tro.

Edrychwyd wedyn ar ddau wasanaeth, “gwiriwch os oes angen caniatâd arnoch” a “chaniatâd adnewyddu”. Buom hefyd archwilio sut y gallai adeiladu tudalen we fesul darn o dir fod yn ffordd o archwilio’r data sylfaenol.

Fe wnaethon ni ddefnyddio bwrdd Miro i dynnu’r llif, dal ein sgyrsiau ac ychwanegu dolenni a sgrinluniau at arteffactau perthnasol. Fe wnaethom hefyd adeiladu ôl-groniad o dasgau ar gyfer adeiladu prototeip.

Sgrinlun o'r bwrdd miro a ddefnyddiwyd i dynnu'r llif, dal ein sgyrsiau ac ychwanegu dolenni a sgrinluniau i arteffactau perthnasol

Adeiladu ein prototeip

Yn ystod sesiwn 6 gwnaethom redeg 3 micro-sprints. Roedd pob un yn cynnwys blaenoriaethu cyflym a rhannu tasgau, cwblhau’r tasgau ac yna dod yn ôl at ein gilydd i adfyfyrio ar ein datblygiad hyd yn hyn.

Fe wnaethon ni ddefnyddio Miro i olrhain ein tasgau, i ddal y cynnwys ac i wella llif y defnyddiwr. Defnyddiwyd fersiwn wedi’i ailgynnau o Becyn Prototeip GOVUK i adeiladu’r prototeip. Fe wnaethon ni ddefnyddio GitHub Codespaces i oresgyn yr heriau o sefydlu amgylcheddau datblygwyr ar beiriannau cyfranogwyr - gweithiodd hyn yn dda iawn!

Roedd yr wythnos yma’n un brysur, ond roedd gweld cynnydd drwy gydol y dydd yn ein cadw i fynd. Yn bennaf, fe wnaethon lwyddo i gwblhau taith gyflawn ar gyfer y gwasanaeth arfaethedig, “Gwiriwch a ydych yn cael defnyddio ein tir”, a sgerbwd ar gyfer y gwasanaeth “caniatâd adnewyddu”.

Llun o'r tîm mewn cyfarfod yn trafod prototeip posib i wasanaethau caniatâd CNC

Wythnos nesaf

Wythnos nesaf yw wythnos olaf labordai CNC. Mae’r amser wedi hedfan heibio, ac rydyn ni wedi llwyddo i ymdrin â nifer fawr o bethau. Mae dal mwy i’w gwneud, ond ein nod oedd cymryd agwedd ymarferol at brototeipio darn tenau o wasanaeth digidol, a theimlwn, fel grŵp, ein bod wedi llwyddo i gyflawni hyn.

Yn y ddwy sesiwn olaf byddwn yn dangos y prototeip i ddefnyddwyr ac yn casglu eu hadborth. Bydd amser gennym i fyfyrio ar brofiad y labordai, a byddwn yn adrodd hanes yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu dros y pedair wythnos diwethaf.

Cymryd rhan

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech gysylltu â ni, neu os hoffech dderbyn diweddariadau trwy e-bost, anfonwch neges at hello@learnbymaking.cymru