Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos chwech

18 Tachwedd 2022

Yr wythnos hon ry’n ni wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer dwy sesiwn gyntaf Dysgu trwy greu, sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf. Gallwn ni byth yn teimlo’n gwbl barod, mae wastad mwy i wneud! Ond, teimlwn ein bod mewn sefyllfa dda, ac rydyn ni’n gyffrous i gwrdd â’r tîm yn bersonol a rhoi’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei baratoi ar waith.

Llun o rai anghenion defnyddiwr y byddwn yn eu defnyddio yn ystod sesiwn 2

Gwesteion arbennig

Syniad a gawsom ar gyfer rhai o’r sesiynau oedd gwahodd siaradwyr arbenigol i rannu rhai o’u profiadau, a’n helpu i ddod ag agweddau gwahanol ar feithrin cynnyrch a gwasanaethau digidol yn fyw.

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod wedi trefnu’r ddau siaradwr gwadd cyntaf.

Mi fydd Alistair Duggin yn ymuno â ni ar gyfer un o’r sesiynau i siarad am bwysigrwydd hygyrchedd, a sut mae gan bawb yn y tîm, waeth beth fo’u rôl, ran i’w chwarae wrth sicrhau bod modd i bawb defnyddio’r hyn sy’n cael ei adeiladu.

Bydd Richard Pope yn ymuno â ni hefyd. Roedd Richard yn rhan o’r tîm a sefydlodd Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU, ac mi fydd yn rhannu gyda ni ei brofiad helaeth wrth adeiladu gwasanaethau digidol ar draws y llywodraeth.

Byddwn yn cyhoeddi mwy o siaradwyr gwadd dros yr wythnos neu ddwy nesaf!

Rhannu pethau!

Ar gyfer pob un o’r sesiynau, rydym wedi bod yn paratoi gwahanol ddarnau, templedi a chanllawiau a fydd yn ddefnyddiol. Rydym wedi ychwanegu adran adnoddau i’r wefan lle gallwch weld a lawrlwytho popeth. I ddechrau, rydym wedi ychwanegu canllaw syml i markdown, dechreuadau cyflwyniad i Git a chychwyn ar restr ddarllen, ond byddwn yn siŵr o ychwanegu mwy wrth i ni fynd.

Os oes unrhyw beth rydych chi’n meddwl byddai’n ddefnyddiol i’w ychwanegu at y canllawiau neu’r deunyddiau eraill, mae croeso i chi gyfrannu ar GitHub neu anfonwch e-bost atom.

Cymryd rhan

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech gysylltu, neu os hoffech gael diweddariadau trwy e-bost, anfonwch neges at hello@learnbymaking.cymru