Dysgu trwy greu.

View in English

Wythnos deuddeg, tair ar ddeg a phedair ar ddeg

13 Ionawr 2023

Blwyddyn Newydd bawb!

Gobeithio y cawsoch chi Nadolig a Blwyddyn Newydd hyfryd - gyda rhywfaint o amser i ymlacio gobeithio.

Ar ôl y rhuthr gwallgof ym mis Tachwedd a Rhagfyr, roedd y tîm Dysgu trwy greu yn haeddu gorffwys, felly does dim gormod o ddiwrnodau gwaith wedi bod ers ein diweddariad diwethaf. Gwnawn ni alw’r wythnos hon yn “Wythnos deuddeg, tri ar ddeg a phedwar ar ddeg.”

Y prif ddiweddariad yw bod y tîm a’r gwerinwyr yn CDPS, yn ceisio dod o hyd i gyfranogwyr i gymryd rhan yn yr ail gyfres labordai. [Fe ddysgon ni lawer yn gwneud y peilot] (https://learnbymaking.wales/en/updates/2022/12/21/what-weve-learned.html) ond mae dal digon o waith a phroblemau i’w datrys, felly mae’n bwysig ein bod yn dewis y set orau o gyfranogwyr a fydd yn ein helpu i ateb rhai o’n cwestiynau.

Ac mae ambell aelod o’r tîm peilot wedi symud ymlaen i brosiectau eraill tra bod hyn yn cael ei drefnu.

Diweddaru adnoddau

Rydym wedi parhau i ddiweddaru’r wefan a’r offer a grëwyd gennym ar gyfer y peilot. Rydym wedi trwsio a chwblhau manylion bach - megis gwneud dyddiadau’r cofnodion yn ddwyieithog yn nhempled gwefan y prosiect.

Rydym wedi symud rhai o’r newidiadau a wnaethom ym mhecyn prototeip CNC i fersiwn Dysgu trwy greu fel eu bod ar gael i’r set nesaf o gyfranogwyr (ac unrhyw un arall sy’n ei ddefnyddio).

Ac rydym wedi cyhoeddi canllaw yn esbonio sut i ddechrau ar Lasbrintiau gwasanaeth. Os oes gan unrhyw un unrhyw adborth arno, cysylltwch â ni (mae’r manylion ar ddiwedd y cofnod yma).

Cyhoeddi mwy yn y Gymraeg

Mae Dysgutrwygreu.cymru ar gyfer Cymru, sy’n golygu ein bod wedi ymrwymo i ddarparu ein cynnwys a’n hadnoddau yn Gymraeg a Saesneg fel y gall pawb ar draws sector cyhoeddus Cymru elwa ohonynt.

Rydym wedi gwneud gwaith eithaf da hyd yn hyn, ond roedd y cyflymder y bu’n rhaid i ni weithio arno yn golygu ein bod wedi gwneud y penderfyniad i gyhoeddi rhai o’n canllawiau a’n templedi ailddefnyddiadwy yn Saesneg yn gyntaf, tra buom yn gweithio ar y fersiynau Cymraeg.

Diolch i ymdrech garegog gan Alaw, rydym ar y ffordd i drwsio hyn. Mae mwyafrif o’r wefan nawr yn ddwyieithog, ac rydym wedi cyhoeddi fersiynau Cymraeg templed ‘Fy Llawlyfr i’ a’r Templed Glasbrint Gwasanaeth.

Cymryd rhan

Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.

Os hoffech gysylltu â ni, neu dderbyn diweddariadau drwy e-bost, anfonwch neges at hello@learnbymaking.cymru