Wythnos unarddeg
22 Rhagfyr 2022
Sut yn y byd yw hi’n wythnos 11 yn barod!? Mae’r amser wedi hedfan heibio’n llwyr, ond mae’r profiad wedi bod yn un hwyl. Lot mawr o hwyl.
Mae’r tîm Labs yn hen barod am seibiant dros y gwyliau, ond cyn hynny dyma rediad cyflym o’r hyn rydyn ni wedi bod yn gweithio arno’r wythnos hon.
Myfyrio
Myfyrio bu thema’r wythnos hon. Er cymaint yr ydym yn gobeithio bod y werin o CNC wedi dysgu ambell i beth yn ystod yr wythnosau diwethaf (ac rydym yn meddwl eu bod wedi gwneud, mwy am hynny ymhen tipyn), roedd hyn yn gyfle i ni ddysgu hefyd.
Mae’n saff dweud mai nôl yn wythnos un pan ddaethon ni at ein gilydd am y tro cyntaf fel tîm, doedd dim un ohonon ni 100% yn siŵr sut fyddai’r syniad yma’n droi allan. Roedd llawer o ddysgu wrth i ni fynd, addasu ein cynlluniau yn seiliedig ar yr hyn roedden ni’n teimlo oedd yn gweithio, a chymryd adborth eraill mewn i ystyriaeth.
Mae’r olygfa yma o Wallace and Gromit yn dod i’r meddwl a ddim yn rhy bell o’r gwir!
Beth ddysgon ni
Treulion ni beth amser fel tîm yn meddwl am yr hyn ddysgon ni dros yr 11 wythnos diwethaf. Mae yna gryn dipyn i ddadbacio, ond dyma rai o’r prif bethau bydd yn aros gyda ni
Sôn am weithio yn yr agored o’r dechrau
O’r cychwyn cyntaf fe ddywedon ni mai un o’n hegwyddorion fel tîm oedd gweithio yn yr agored. Er bod pawb i’w weld yn deall hynny, dim ond ar ôl sesiwn gyda Giles am gyfathrebiadau Ystwyth daeth yn glir i’r cyfranogwyr sut gallwch weithio’n agored. Wrth fyfyrio, rydym yn argymell cael y sgwrs yma yn y sesiwn gyntaf.
Diffinio problem i’w datrys
Sesiwn tri oedd un o’r diwrnodau anoddach, lle’r oeddem yn anelu adnabod pa broblem yr oeddem yn mynd i weithio arni. Dyma’r cyntaf i ni redeg o bell, felly efallai nad oedd hynny o unrhyw help, ond roeddem hefyd yn gweld hi’n anodd gwybod lle i ddechrau.
Roedd gennym gymaint o wybodaeth gyfoethog o ddadansoddeg y we, i logiau canolfannau galw, adborth cwsmeriaid, adroddiadau blaenorol a mwy, roedd yn teimlo fel pe baen ni’n tynnu llawer o edafedd ond doedd dim yn datod.
Ar ôl cymryd cam yn ôl a siarad am reddfau pobl ynghylch pa broblemau y gallem fynd i’r afael â nhw y bu modd inni fynd yn ôl at yr holl ddata a defnyddio hynny i helpu i roi tystiolaeth a blaenoriaethu’r hyn y dylem ganolbwyntio arno.
Gwerth ymchwil defnyddwyr
Mae’n teimlo’n amlwg, ond roedd dod â defnyddwyr go iawn i mewn i’r sesiynau Labs yn werthfawr a phwerus. Roedden ni yn gwybod bod hyn am fod yn bwysig o’r cychwyn cyntaf. Roedd clywed yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr go iawn wedi rhoi digon o dystiolaeth i’r tîm bod y broblem yr oedden nhw’n ei thaclo yn ddilys, ac roedd sicrwydd bod y dull roedden nhw wedi’i ddylunio yn rhywbeth gwerth ei ddilyn.
Cyhoeddwyd darn fwy manwl o’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu os hoffech chi ddarllen mwy.
Cael trefn ar ein gwefan
Roedd cyflymder y paratoi ar gyfer y sesiynau Labs yn golygu ein bod wedi mynd ychydig ar ei hôl hi gyda diweddaru’r wefan. Yr wythnos hon fe wnaethon roi amser tuag at sicrhau bod popeth yn cael ei ddiweddaru.
Ar y wefan gallwch weld [trosolwg o’r hyn yr oeddem yn ei gwmpasu]https://learnbymaking.wales/cy/the-labs/) gyda dolen i dudalen-y-sesiwn sy’n sôn am y nodau ar gyfer pob dydd, a’r canlyniadau dysgu arfaethedig.
Mae gennym hefyd restr o’r adnoddau a ddefnyddiwyd gennym yn ystod y labs, mae hyn yn cynnwys rhai o’r canllawiau ar gyfer pethau fel dechrau gyda Git a thempledi megis y glasbrint gwasanaeth a ddefnyddiwyd gennym yn sesiwn dau.
Mae gennym ôl-groniad o gofnodion blog wedi’u hysbrydoli gan yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu dros yr 11 wythnos diwethaf. Gobeithio y bydd gennym amser i ysgrifennu rhai o’r rhain yn y flwyddyn newydd, fodd bynnag yr wythnos hon rhoddodd Colm rai meddyliau am yr offer a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer creu a Gwen a Jamie ar rai o’r pethau a ddysgon ni.
Beth nesaf?
Ar y wefan fe wnaethon ni ddisgrifio’r hyn roedden ni’n ei wneud fel “arbrawf byr i archwilio sut mae pobl yn dysgu drwy greu pethau”.
Ar ddiwedd yr arbrawf cychwynnol yma rydym wir yn teimlo bod rhywbeth i’r dull hwn sy’n gwneud i bobl ddeall dyluniad sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr y tu hwnt i’r ddamcaniaeth. Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan dîm CNC wedi bod yn gadarnhaol, gallwch ddarllen eu meddyliau yn eu nodiadau wythnosol, a’r hyn rydyn ni fel tîm wedi’i brofi drwy redeg y [sesiynau](https://learnbymaking.wales/cy/the-labs/ yn gwneud i ni gredu bod rhywbeth teilwng ei ddilyn yma.
Dydyn ni ddim yn hollol siŵr beth fydd yn digwydd nesaf. Ond rydyn ni wedi dechrau llunio map ffordd lefel uchel sy’n disgrifio rhai o’r ardaloedd y byddai’n dda eu harchwilio nesaf, a gobeithiwn y bydd yn ysgogi sgyrsiau pellach yn y flwyddyn newydd.
Diolch!
Ni fyddai’r peilot Labs hwn wedi bod yn llwyddiant heb y bobl wnaeth ymuno â ni. Diolch enfawr i’n siaradwyr arbenigol, Richard Pope, Alistair Duggin, Sarah Winters a Giles Turnbull.
Ac wrth gwrs, tîm CNC. Roedd eu brwdfrydedd i gymryd rhan a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd yn gwneud y profiad mor werthfawr inni. Rydyn ni wedi sôn amdanynt uchod, ond rydyn ni’n meddwl bod eu nodiadau wythnosol yn wych, felly dyma bwyntiwr arall iddyn nhw rhag ofn i chi beidio â chlicio’r ddolen y tro cyntaf! Diolch Lucinda, Laura, Sam ac Owain.
Cymryd rhan
Mae ein cod i gyd ar gael ar GitHub.
Os hoffech gysylltu â ni, neu dderbyn diweddariadau drwy e-bost, anfonwch neges at hello@learnbymaking.cymru